Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2013
Amserlen ar gyfer trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol i'r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a
Phlismona
1. Ar 22 Hydref 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i drafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, ac i gyflwyno adroddiad arno.
2. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 21 Tachwedd 2013.